hyfforddiant pensaerniaethhyfforddiant dawnshyfforddiant celfyddydau cyffredinolhyforddiant ffilm teledu a ddarlleduhyfforddiant technoloegau digidolhyfforddiant opera, llais a theatr
Gwybodaeth a chefnogaeth am hyfforddiant a datblygiad yn y celfyddydau yng Nghymru


cartref
newyddion a swyddi
ymunwch
hyfforddiant
ariannu
cynadleddau
adborth
linciau
TECST YN UNIG
ENGLISH

 

 
 

Mae gwefan Hyfforddiant Celfyddydau Cymru yn cael ei datblygu ar hyn o bryd. Os cewch chi unrhyw drafferth yn cyrchu gwybodaeth ar y wefan yma a wnewch chi gysylltu â Nia ar 029 2056 9898. Mae’n ddrwg gennym am unrhyw anhwylustod yn sgîl hyn.

Mae adroddiadau Hyfforddiant Celfyddydau Cymru nawr ar gael:

 

*** Cau Hyfforddiant Celfyddydau Cymru ***

Annwyl Rwydwaith

Fel y gŵyr llawer ohonoch chi, bu Cyngor Celfyddydau Cymru yn adolygu Hyfforddiant Celfyddydau Cymru yn rhan o’i adolygiad o sefydliadau darparu gwasanaethau portffolio. Gwaetha’r modd bydd CCC yn tynnu yn ôl yr arian refeniw y mae’n ei roi i Hyfforddiant Celfyddydau Cymru o fis Mawrth 2007 ymlaen. Mae CCC wedi cydnabod ansawdd a phwysigrwydd y gwaith y mae Hyfforddiant Celfyddydau Cymru wedi’i wneud dros y blynyddoedd a’r rôl bwysig y mae wedi’i chwarae wrth y gwaith o ddatblygu, ymhlith pethau eraill, Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yng Nghymru. Mae penderfyniad CCC wedi’i seilio ar nifer o ffactorau, gan gynnwys yr amgylchedd gweithredu newidiol o ran hyfforddiant a datblygiad proffesiynol yng Nghymru, lleihad yr arian sydd ar gael ar gyfer sector y celfyddydau fel cyfangorff a’r ffaith fod ar CCC angen sianelu’r arian hwnnw i ddarpariaeth uniongyrchol yn y celfyddydau.

Bydd Cyfarwyddwr HCC, Zoë Rozelaar, yn ymadael cyn bo hir i gychwyn ar ei swydd newydd yn Rheolwr Cymru Sgiliau Creadigol a Diwylliannol. Bydd Gweinyddwr HCC, Donna Jones, yn dirwyn y sefydliad i ben a’r dyddiad cau tebygol fydd 31 o Ionawr 2007. Cefnogir Donna gan ein Cynorthwy-ydd Gweinyddol Sian Griffiths.

Bydd y wefan www.a-t-w.com yn dal i gael ei diweddaru tan ddiwedd mis Ionawr. O ran gwaith cleientiaid, bellach dim ond o ran eu hymholiadau ynghylch hyfforddiant a datblygiad proffesiynol y bydd HCC yn gallu rhoi pobol ar ben y ffordd.

Mae gan Gyngor Celfyddydau Cymru gronfa ddata o sefydliadau yn y celfyddydau yng Nghymru ar ei wefan www.artswales.org.uk lle gallwch chi chwilio am sefydliadau yn ôl y gwahanol gelfyddydau ac a allai eich cynghori chi o ran cyfleoedd datblygiad proffesiynol a hyfforddiant.

CreativePeople ydi rhwydwaith y DU sy’n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i gefnogi pawb sy’n gweithio yn niwydiannau’r celfyddydau a chrefft er mwyn iddyn nhw wneud y gorau o’u gyrfaoedd. Fe allwch ymgofrestru i dderbyn amryw e-fwletinau trwy eu gwefan www.creativepeople.org.uk

Sgiliau Creadigol a Diwylliannol ydi’r Cyngor Sgiliau Sector ar gyfer crefftau, cerddoriaeth, y celfyddydau perfformio, llenyddol a gweledol, treftadaeth ddiwylliannol, dylunio a hysbysebu. Mae’n sefydliad ymgyrchu, a arweinir gan y diwydiant, sy’n addo dylanwadu’n wirioneddol ar y ddarpariaeth addysg a sgiliau ledled y DU. Ymwelwch â’u gwefan www.ccskills.org.uk am ragor o wybodaeth ynghylch eu gwaith ac i chwilio am gyrsiau yn y sectorau yma.

Carai HCC ddiolch i’r Rhwydwaith am ei gefnogaeth a’i ysbrydoliaeth dros y pum mlynedd a aeth heibio a rydym yn dymuno pob hwyl i chi yn eich gwaith a’ch datblygiad proffesiynol parhaus!

Gyda dymuniadau gorau,

Tîm Hyfforddiant Celfyddydau Cymru

Cysylltwch â ni 
Hyfforddiant Celf Cymru
Sbectrwm
Heol Bwlch
Tyll Goed
Caerdydd
CF5 3EF

ffôn: 029 2056 9898
ffacs : 029 2055 5893
symudol :   07799 622395
admin@a-t-w.com

 

Cliciwch yma am fap lleoliad swyddfeydd Hyfforddiant Celf Cymru yng Nghaerdydd

Staff

Mae gan y staff i gyd brofiad sylweddol yn eu maes, wedi’u hyfforddi i drosglwyddo gwasanaethau Gwybodaeth, Cyngor ac Arweiniad ac mae ganddyn nhw rwydwaith eang o gyrff proffesiynol a dolennau cyswllt y gallant fynd ar eu gofyn nhw am gyngor arbenigol. Gellir cysylltu â staff Hyfforddiant Celfyddydau Cymru fel sy’n dilyn:
Zoë Rozelaar Zoë Rozelaar
Cyd-Gyfarwyddwr Dros Dro
Cysylltwch â Zoë ynghylch materion sy’n ymwneud â dawns, theatr, a rheoli llwyfan/technegol, ymholiadau corfforaethol sy’n ymwneud â’r celfyddydau gweledol a chrefft, ac unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â gwasanaethau gwerthuso.
Tel: 029 2056 9898
Ffôn ar Lôn: 07967-273853.
zoe@a-t-w.com

Donna Jones
Cyd-Gyfarwyddwr Dros Dro
Cysylltwch â Donna ynghylch unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â rheolaeth yn y celfyddydau, cerddoriaeth a llenyddiaeth.
Tel: 029 2056 9898
Ffôn ar Lôn:: 07799 622395
donna@a-t-w.com
Dydd Llun - Dydd Iau

  Sian Griffiths
Cynorthwy-ydd Gweinyddol
Tel 029 2056 9898
sian@a-t-w.com
Dydd Llun - Dydd Iau

Bwrdd Rheoli

Cadeirydd: Ellen ap Gwynn
Is-Gadeirydd: Stuart Neale (Cadeirydd, Fforwm Crefft Cymru)
Gill Ogden (Swyddog y Celfyddydau Perfformio, Canolfan y Celfyddydau)
Leigh Verrill-Rhys (Rheolwr-gyfarwyddwr, Camfa)
Pat Nelder (Cyd-drefnydd Technegol a Datblygiad, Clwyd Theatr Cymru)
Sally Baker (Cyfarwyddwr, Ty Newydd)
 
 
 
Logo Hyfforddiant Celfyddydau Cymru